Roedd ein Prosiect Phoenix, a ariannwyd gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, Pobl a Sgiliau, Wrecsam, wedi ein helpu i hyfforddi 6 o arweinwyr dawns creadigol cynhwysol newydd am gyfnod o 25 wythnos o’r prosiect. Roedd ein Prosiect Phoenix yn cefnogi WISP+, ein darpariaeth dawns i oedolion yng nghanol tref Wrecsam, gan ein galluogi i lansio dau grŵp dawnsio cymunedol newydd yn Wrecsam, sef Clwb Dawns WISP ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed a Famalam sy’n dod â theuluoedd at ei gilydd i ddawnsio’n gynhwysol. Roedd ein prosiect Phoenix hefyd yn gyfle i ni estyn allan at grwpiau cymunedol lleol i gynnal 8 sesiwn blasu dawns greadigol gynhwysol ar draws Sir Wrecsam. Canlyniad y prosiect yw bod ein 6 hyfforddai wedi dod yn aelodau o dîm Clwb Dawns WISP sy’n arwain sesiynau i ni ar draws rhanbarth Gogledd-ddwyrain Cymru, gan ein helpu i dyfu a datblygu dros y blynyddoedd nesaf a hyrwyddo arferion dawns creadigol cynhwysol ymhob rhan o addysg a’r gymuned.
