Designed and built with care, filled with creative elements

Top

Cysylltwch â ni

WISP

CROESO I

Clwb Dawns

Darllen Haws Lle Mae Cynhwysiant Yn Annog
Posibilrwydd

"Mae'n rhoi’r cyfle i ymarfer corff ac cymdeithasu gyda phobl heb sylweddoli, mae hi’n gwneud ffrindiau ac yn mwynhau bywyd.”

Rhiant

"Mae WISP yn gwneud i mi deimlo'n dda."

Cyfranogwr

"Mae’n gyffrous i gymryd rhan ac i fod yn rhan o rywbeth sy'n dod â hapusrwydd iddi"

Rhiant

“Mae'n gwneud i mi deimlo'n hapus"

Cyfranogwr

“Yr oeddwn wedi synnu faint oedd hi’n ymuno a cymeryd rhan, gan nad yw hyn yn hawdd iddi. Yr oedd hi'n mwynhau dilyn yr holl symudiadau”

Rhiant

Clwb Dawns
WISP

Mae WISP yn cynnig amgylchedd diogel a chynhwysol ar gyfer pobl rhwng 8+ oed sy’n byw gydag anghenion ychwanegol i dawnsio gyda’i gilydd.

Mae WISP wedi bod yn darparu Profiadau Dawns, Prosiectau Chorerograffi a Sioeau am drost 30 mlynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae cannoedd o blant, pobl ifanc ac oedolion wedi ymuno â ni i ehangu eu profiad dawnsio, cynyddu eu hunanhyder, adeiladu cyfeillgarwch parhaus, a cael llawer o hwyl!

A allech chi helpu i ariannu ein prosiectau dawns ar gyfer pobl ifanc sy'n byw gydag anghenion ychwanegol?

Ei’n Cyfranogwyr Yw Calon WISP

Ers sefydlu yn 1994, mae cyfranogwyr WISP wedi bod yn hanfodol i ei’n dewisiadau, ei’n darpariaeth ac ei’n cyfeiriad. Pwy sydd well i’n harwain ni nag ein aelodau a’u teuluoedd? Mae WISP wedi cynnwys lleisiau ein haelodau i helpu arwain prosiectau a chreu gwaith pwerus. Mae’n fraint gweithio gyda ysbrydoli aelodau, teuluoedd a’r gymuned i ysbrydoledig.

WISP Dance Club-40

Newyddion Diweddaraf

Gwyl #Ni'nDawnsioHefyd

Mae WISP yn falch o gyhoeddi’r ŵyl ddawns gynhwysol gyntaf erioed i’r Gogledd – yn digwydd ym mis Gorffennaf yn Pontio Bangor! Mae hyn yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac Cyngor Celyddydau Cymru
Cadwch y dyddiadau’n glir:
• Dydd Gwener 11 Gorffennaf – Perfformiad prynhawn 1yp
• Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf – Perfformiad gyda’r nos 7yh
Rydym wrth ein bodd i gydweithio gyda Pontio ar y ŵyl arloesol hon o ddawns gynhwysol, o’r enw #Ni’nDawnsioHefyd.
Fe’i cyflwynir gan Glwb Dawns WISP ar y cyd â Dawns i Bawb a Chywaith Dawns CIC, ac mae’r ŵyl ysbrydoledig hon yn arddangos perfformiadau pwerus a chynhyrfus gan bobl ifanc ac oedolion ag anghenion ychwanegol o bob cwr o’r rhanbarth.
Rydym hefyd yn falch iawn o gynnwys Humans Move yn ail hanner y perfformiad, yn cyflwyno Let Life Dance — gwaith dawns cynhwysol newydd sy’n rhan o’u taith ledled Cymru yn 2025.
Dywedodd ein Cyfarwyddwr Artistig, Uma O’Neill:
“Roedd ein haelodau eisiau mwy o gyfleoedd i rannu eu gwaith caled a gweld perfformwyr ysbrydoledig eraill ar y llwyfan. Dyna yw Ni’n Dawnsio Hefyd– dathlu gorau’r dawns gynhwysol o bob cwr o’r Gogledd!”

Sesiynau Ar-lein

Dawnsiwch gyda ni o gartref.

Dawnsio Swigod

Wedi’i gefnogi gan Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol, yr oedd prosiect Dawnsio Swigod yn nodi creu sesiynau dawns cynhwysol yr allwch profi o eich cartref. Mi wnaethom treulio amser yn gweithio gyda’n gilydd yn y stiwdio i ddewis pa dasgau a darnau o ddawns i gynnwys. Roeddwn ni’n ffodus i ddod o hyd i leoliad gwych yn Sir y Fflint i ffilmio dros yr haf 2022. Ymunodd Theatr Clwyd a’r VAE â ni yn y prosiect. Crëwyd 7 sesiwn gyda tiwtoriaid Cymraeg, Saesneg a BSL i ddod â gweithgaredd dawns gynhwysol i’ch sgriniau! Gallwch ymuno nawr drwy fynd i’n sianel YouTube newydd.

WedanceJoelstill

Gweithiau Creadigol

Mae pob dawns yn adrodd stori. Ynddynt, rydym wedi teithio i India, wedi dyfro i lawr dan y dwr, ac wedi dawnsio gyda’r Beatles. Rydym wedi agor ei’n calonnau a’n meddyliau ac wedi rhoi popeth ar y llwyfan. Rydym yn caru dawnsio ac mynegi ei’n hunain

Ei’n Cefnogwyr

Heb ei’n cefnogwyr, ni allwn gwneud yr hyn yr ydym yn ei garu: dawnsio gyda'n gilydd. Mae mor syml â hynny. I bob sefydliad, elusen ac unigolyn sydd erioed wedi cefnogi ni, diolch yn fawr i chi

Cysylltwch â ni




    F8ADE89C-BF7C-409C-8500-09F4218E2D90